Meddylfryd Ar Gyfer Safon Uwch: 40 Gweithgaredd I Drawsffurfio Ymroddiad, Cymhelliant a Chynhyrchedd Myfyrwyr
Mae gan Steve Oakes a Martin Griffin dros 40 mlynedd o brofiad ar y cyd o addysgu a hyfforddi. Mae'r ddau wedi darganfod rhywbeth pwysig - nid y myfyrwyr sydd a chanlyniadau TGAU gwych, o anghenraid, sy'n dod yn eu blaenau yn dda ac yn gyson ar Safon Uwch. Mae rhai myfyrwyr yn neidio o gael canlyniadau cyffredin ym Mlwyddyn 11 i gael canlyniadau ardderchog ym Mlwyddyn 13. Mae eraill fel petaen nhw'n 'taro nenfwd'. Ond pam?Wrth iddyn nhw geisio ateb y cwestiwn hwn daeth y system VESPA i'r amlwg. Mae Steve a Martin wedi mynd at wraidd datblygu cymeriad ac wedi adnabod pum ymddygiad a nodwedd allweddol mae'n rhaid i bob myfyriwr eu cael er mwyn llwyddo: gweledigaeth, ymdrech, systemau, ymarfer ac agwedd. Mae'r nodweddion hyn yn llawer pwysicach na nodweddion gwybyddol. Trwy adnabod y nodweddion craidd sy'n cyfrannu at lwyddiant myfyrwyr, mae'r awduron wedi datblygu ystod eang o weithgareddau ymarferol i helpu pob myfyriwr i ddatblygu'r Meddylfryd Safon Uwch: 40 strategaeth glir, hygyrch a chymwys sydd wedi'u cynllunio i godi gwytnwch, positifrwydd, trefniadaeth a phenderfyniaeth myfyrwyr safon uwch. Ac yn yr adolygiad yma o'r llyfr, mae Steve a Martin yn cyflwyno ystod o astudiaethau achos a chyngor defnyddiol am sut i sefydlu'r model VESPA mewn ysgolion. Yn ogystal, maen nhw hefyd wedi ailysgrifennu'r rhagarweiniad i bob agwedd o'r model VESPA gan gynnwys gwybodaeth a mewnwelediadau newydd. Addas i athrawon, tiwtoriaid, arweinwyr Safon Uwch ac unrhyw un arall sydd am annog disgyblion safon uwch i gyflawni eu potensial.
192 pages
Other (cy) edition · First published 2022 by Crown House Publishing · ISBN 9781785836640
Readers also shelved
Blood of WonderlandColleen Oakes
Queen of heartsColleen Oakes
The MeadowsStephanie (Young adult author) Oakes
War of the CardsColleen OakesBe the first to rate this book
Keep track of what you read
Book Nook is a free reading tracker with a 3D bookshelf, a reading timer, challenges with friends and a Reading Wrapped at the end of the year. Add Meddylfryd Ar Gyfer Safon Uwch: 40 Gweithgaredd I Drawsffurfio Ymroddiad, Cymhelliant a Chynhyrchedd Myfyrwyr to your shelf in one tap.